top of page

Amdano ni

Yn ysbrydoli rhedwyr lleol ers 2008

Hanes Rhedwyr Emlyn Runners.

​

Yn 2008, daeth grŵp o 10 rhedwr ynghyd i ffurfio Rhedwyr Emlyn Runners. Rydym yn cwrdd bob nos Iau am 6.30pm yn nerbynfa Canolfan Hamdden Emlyn, Castell Newydd Emlyn.

Rydym yn grŵp gallu cymysg sy'n amrywio o ddechreuwyr i redwyr sefydledig, sydd heb anghofio sut mae'n teimlo pan fyddwch chi'n cychwyn allan. Mae ein rhedwyr yn amrywio o 18 oed i 80 oed, 5k i 50k ac o redeg milltir mewn 6 munud i gerdded / rhedeg.

Yn ogystal â rhediadau hyfforddi wythnosol sydd wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer bob gallu, rydyn ni'n trefnu dwy ras clwb. 10k Abercych ym mis Mehefin a'r Diafol Dolbryn Devil, cwrs Aml-dir 10 milltir ym mis Medi.

Yn ystod unrhyw flwyddyn mae gwahanol sefydliadau yn cysylltu â ni i fod yn gynorthwywyr ras,  helpu i godi arian at elusen, ar gyfer pobl chwaraeon lleol ac i gefnogi achosion lleol. Mae'n fraint i ni fel grŵp o redwyr hefyd allu rhoi yn ôl i'r gymuned leol trwy rediadau cymdeithasol a chodi arian.

bottom of page